Ymdrech i ddiogelu cimwch coch
- Published
Mae cyfanswm o 500 o gimwch coch wedi eu rhyddhau i afon ym Mhowys fel rhan o ymdrech i atal y rhywogaeth rhag diflannu o wyneb y ddaear.
Y gobaith yw y bydd y cimwch coch cynhenid blwydd oed yn magu yn afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt.
Mae'r ardal sydd wedi ei ddewis yn rhydd o afiechyd sy'n lladd y cramenogion.
Mae'r cimwch coch cynhenid hefyd dan bwysau gan eu bod yn gorfod cystadlu a chimwch coch o ogledd America sy'n lledu drwy Brydain.
Dyw cimwch coch o Ogledd America ddim yn bresennol yn yr ardal dan sylw.
Cafodd y cimwch cynhenid eu magu yn Aberhonddu.
Dywedodd Oliver Brown, o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Mae'r prosiect yn rhan hanfodol o strategaeth yr Asiantaeth i achub y cimwch choch.
"Mae'r strategaeth cyn cynnwys gwarchod y cimwch yn eu cynefinoedd presennol, a sefydlu ardaloedd diogel newydd ar eu cyfer.
Mae'r Asiantaeth yn gweithio ar y cyd gyda Sefydliad yr Wy a'r Wysg.
Fe wnaeth y Sefydliad gychwyn ar eu gwaith yn 2009.
Cafodd y cimwch coch Americanaidd ei gyflwyno i Brydai yn 1970au 1980au er mwyn eu pysgota.
Mae arbenigwyr yn poeni y gallai'r rhywogaeth gynhenid farw o fewn 30 o flynyddoedd oni bai fod rhywbeth yn cael ei wneud.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Ionawr 2010