Cynghorydd yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Barrie DurkinFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Mon
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Mr Durkin ei wahardd am flwyddyn rhag bod yn gynghorydd

Mae un o gynghorwyr Ynys Môn wedi ymddiswyddo ddiwrnod ar ôl iddo gael ei wahardd rhag bod yn aelod o'r awdurdod am gyfnod o 12 mis.

Roedd Panel Dyfarnu yn Llangefni wedi ystyried tri chŵyn yn erbyn cynghorydd Llanbedrgoch ger Benllech, Barrie Durkin.

Cafodd dau o'r cwynion eu cadarnhau, ond cafodd y trydydd ei wrthod.

Penderfynodd y panel bod Mr Durkin yn euog o fynd yn groes i Gôd Ymddygiad Cynghorwyr drwy fwlio a phoenydio Swyddog Monitro'r Awdurdod, Lyn Ball, a'i fod wedi ymddwyn mewn modd fyddai'n dwyn anfri ar ei swydd fel cynghorydd.

Gwrthodwyd cwyn ei fod wedi bwlio Prif Weithredwr yr awdurdod ar y pryd, David Bowles.

Mr Bowles a gyflwynodd y cwynion yn erbyn Mr Durkin yn wreiddiol.

Roedd Mr Durkin wedi dadlau mai ei reswm am ymddwyn "mewn modd cadarn" tuag at swyddogion y cyngor oedd ei fod yn benderfynol o fynd at wraidd llygredd o fewn yr awdurdod.

Ond gwrthododd y panel yr eglurhad mai dyna oedd ei gymhelliad.

Mae'r Cyngor wedi bod o dan reolaeth Comisiynwyr a gafodd eu penodi gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, ers 2010.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Mr Sargeant ei fod yn ystyried dirwyn yr ymyrraeth yna i ben gan fod pethau wedi gwella o fewn yr awdurdod.