Cwyno am dâl bagiau plastig

  • Cyhoeddwyd
Bagiau plastigFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r tâl yn ymgais i leihau gwastraff

Mae codi tâl ar gyfer bagiau plastig yn rhoi pwysau ar fusnesau bychain ac yn niweidiol i dwristiaeth, yn ôl beirniaid y cynllun.

Mae Cynghrair y Trethdalwyr am i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i'r cynllun sy'n golygu fod siopwyr yn talu 5 ceiniog ar gyfer bagiau untro.

Bydd y Gynghrair yn casglu enwau ar ddeiseb yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd y ffi o 5 ceiniog ei gyflwyno oherwydd y "gorddefnydd helaeth" o fagiau untro.

Roedd yna amcangyfrif yn 2009 fod y prif archfarchnadoedd wedi rhoi 350 miliwn o fagiau untro i gwsmeriaid mewn blwyddyn.

Mae cwmnïau yng Nghymru yn wynebu dirwy o hyd at £5,000 pe bai nhw'n rhoi'r bagiau am ddim.

Dywed rhai busnesau fod y defnydd o fagiau untro wedi gostwng 90% ers i'r tâl o 5 ceiniog ddod i rym yn Hydref 2011.

Mae'r arian sy'n cael ei godi yn mynd i elusennau.

Elusennau

Dywedodd Tesco ac Asda eu bod nhw wedi rhoi dros £100,000 yr un i elusennau.

Ond dywed Lee Canning, cyfarwyddwr Cynghrair y Trethdalwyr: "Does neb am weld bagiau plastig ar strydoedd Cymru.

"Ond mae'r dreth yma yn orymateb i'r broblem.

"Mae'n rhoi gormod o bwysau ar fusnesau bychain, sy'n gorfod cydymffurfio neu wynebu dirwy drom.

"Dylai Llywodraeth Cymru annog teuluoedd i fod yn llai dibynnol ar fagiau, yn hytrach nag eu cosbi."

Bydd ymgyrchwyr yn casglu enwau yng nghanol Caerdydd dydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Crymu: "Mae'r Gynghrair yn geidwadwyr mewn popeth heblaw enw.

"Dydy nhw ddim yn cynrychioli unrhyw un heblaw eu hunain.

"Dydi hwn ddim yn dreth. Bydd yna ddim arian yn dod i goffrau Llywodraeth Cymru, ond mae o yn cael ei roi i elusennau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol