BBC: Undebau yn galw streic
- Cyhoeddwyd

Mae undebau sy'n cynrychioli newyddiadurwyr a staff technegol yn BBC Cymru wedi galw streic 24 awr ar y diwrnod mae'r Ffagl Olympaidd yn cyrraedd Cymru.
Dywed aelodau Bectu a'r NUJ eu bod yn mynd ar streic oherwydd i gadeirydd cangen leol BECTU gael ei diswyddo.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gorfforaeth eu bod am ddatrys y ffrae.
Byddai'r Streic yn cael ei chynnal ddydd Gwener Mai 25.
"Mae'r gweithredu diwydiannol yn brotest yn erbyn penderfyniad y BBC i ddiswyddo cadeirydd cangen Bectu yn BBC Caerdydd, Heidi Williams," meddai Luke Crawley, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Bectu.
Dywedodd Mr Crawely fod aelodau Bectu a'r NUJ wedi pleidleisio dros streic.
Daeth y trafodaethau i ben ddydd Iau ar ôl cyfarfod 12 awr gyda'r gwasanaeth cymodi Acas.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Crymu: "Mae BBC Cymru Wales yn siomedig iawn fod Bectu wedi penderfynu targedu ein darllediadau o'r Ffagl Olympaidd yn cyrraedd Cymru y penwythnos nesa'.
"Er gwaetha'r cyfarfod aflwyddiannus yn Acas yr wythnos hon, rydym wedi gofyn i Bectu ddechrau ar gyfres newydd o gymodi - dan arweinyddiaeth barnwr sy'n arbenigwr mewn cyfraith cyflogaeth."