Sarah Thomas yn nhîm hoci merched Prydain

Sarah Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Sarah Thomas yw'r unig Gymraes yn y garfan

Un Gymraes yn unig sydd wedi cael ei henwi yn nhîm hoci merched GB ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012.

Fe fydd Sarah Thomas, 31 oed yn rhan o'i hail Gemau Olympaidd ar ôl cystadlu yn Beijing yn 2008.

"Roedd cael fy newis ar gyfer Beijing yn arbennig iawn, fy ngemau cyntaf," meddai.

"Ond mae cael bod yn rhan o'r Gemau eto yn anghredadwy, yn rhywbeth na wnes i erioed ddychmygu."

Mae Thomas wedi chwarae yn broffesiynol yn Yr Iseldiroedd ac mae hi wedi bod yn gapten ei gwald yn ystod gyrfa 15 mlynedd.

Mae hi wedi chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010 ac wedi bod yn rhan o garfan Prydain ers 2003.

Cafodd ei geni yn Aberdâr a'i magu ym Merthyr Tudful.

Dechreuodd chwarae yn 13 oed.

O fewn chwe mis roedd hi'n ennill ei chap cyntaf dros Gymru o dan 16 oed.

Mae hi'n dweud bod y garfan yn obeithiol iawn o fedal yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.

"Yn ddi-os, mae'r tîm yn anelu am yr aur," meddai.

"Dyna sut yr ydan ni'n ymarfer."

Tîm Hoci Merched GB (geni, cartref, oedran):

Ashleigh Ball (Brighton, Cheltenham, 26)

Laura Bartlett (Glasgow, 23)

Crista Cullen (Boston, Llundain, 26)

Alex Danson (Southampton, Odiham, 26)

Hannah Macleod (Huntingdon, 27)

Emily Maguire (Paisley, 23)

Anne Panter (Wellingborough, 28)

Helen Richardson (Hitchin, West Bridgford, 30)

Chloe Rogers (Great Dunmow, 27)

Beth Storry (Reading, 32)

Sarah Thomas (Aberdâr, Merthyr Tudful, 31)

Georgie Twigg (Lincoln, 21)

Laura Unsworth (Sutton Coldfield, 24)

Kate Walsh (Stockport, 32)

Sally Walton (Solihull, 27)

Nicola White (Oldham, 24)

Dwy wrth gefn:

Natalie Seymour (Maidstone, 24)

Abi Walker (Glasgow, 30)

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.