Buddsoddiad £40m drwy dai newydd i stâd Penrhys yn Y Rhondda
- Cyhoeddwyd

Cafodd cynlluniau eu cyflwyno ar gyfer prosiect adfywio gwerth miloedd o bunnoedd ym Mhenrhys, Y Rhondda.
Gall dros 100 o dai fforddiadwy eu codi fel rhan o gynllun a fyddai'n creu £40 miliwn i'r economi lleol.
Byddai elw gwerthu'r tai yn cael eu hail-fuddsoddi yn y gymuned.
Mae'r datblygwyr yn gobeithio defnyddio gweithwyr a chyflenwyr lleol drwy'r broses.
Does dim angen cyllid gan y llywodraeth ac mae disgwyl penderfyniad ar ran gyntaf y cynllun ym mis Awst.
Fe arweiniodd chwalu dau draean o dai ar stad Penrhys ar ddechrau'r 1990au, at sichrau 11 acer o dir diffaeth a galw sylweddol am dai cymdeithasol.
Gwerthu tir
Fe fydd Tai RCT, a gymrodd reolaeth o holl dai cymdeithasol yr ardal yn 2007, yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr adfywio tai cymdeithasol, Independent Regeneration, ar y cynllun.
Os ydi'r cynlluniau yn cael eu derbyn, fe fydd RCT yn rhoddi'r tir i Independent Regeneration a fydd yn gwerthu darnau i ddatblygwyr yn is na graddfa'r farchnad.
"Mae'r math yma o syniad yn unigryw yn y DU," meddai llefarydd ar ran Tai RCT
"Rydym yn ceisio creu cymuned gynaliadwy ym Mhenrhys.
"Y prif beth yw adfywio un o ardaloedd economaidd gwaeth Cymru heb orfod galw am gymorth gan Lywodraeth Cymru."
Eglurodd y bydd y gwaith yn cael ei wneud gam wrth gam ac na fydd 'na dy yn cael ei godi na fydd ei angen.
Os fydd y datblygiad yn cael ei gymeradwyo fe fydd yn cael ei wneud dros gyfnod o bum mlynedd.
"Rydym eisiau gweithio gyda phobl leol i gael y budd gorau o'r prosiect yma," meddai Ian Robinson, Prif Weithredwr Independent Regeneration.
'Hyder a gobaith'
"Drwy ddefnyddio llafur lleol, cyflenwyr lleol a gweithwyr a gwasanaethau lleol, fe fydd yn golygu llawer mwy o elw ariannol a fydd yn cylchdroi yn y gymuned."
Dim ond 12% o'r 350 o dai sydd ar y safle ar hyn o bryd sy'n nwylo perchnogion preifat.
Dywedodd Kath Lewis, sy'n byw yn yr ardal, bod y bobl leol yn awyddus iawn i weld y datblygiad yn mynd ymlaen.
"Fe fydd yn rhoi lot o hyder a gobaith ar gyfer y dyfodol."
Os fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymeradwyo'r cais ym mis Awst, fe fydd angen cais manylach cyn cychwn ar y gwaith yng ngwanwyn 2013.