Morgannwg yn colli yn erbyn Swydd Derby

Logo Morgannwg Image copyright Other

Fe wnaeth Morgannwg golli unwaith eto yn y bencampwriaeth wrth i Swydd Derby ennill o fewn tridiau.

Roedden nhw allan am 188 yn eu hail fatiad yn erbyn Swydd Derby.

Fe wnaeth y tîm cartre' a phencampwr Adran Dau, gyrraedd y cyfanswm oedd ei angen arnyn nhw - sef 71 rhediad - mewn dim o dro, efo wyth wiced yn weddill.

Colli o 8 wiced ddydd Gwener oedd y trydydd tro'r tymor hwn i'r clwb Cymreig gael eu curo o fewn tridiau.

Maen nhw'n dal heb yr un fuddugoliaeth mewn unrhyw gystadleuaeth y tymor yma.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2

Swydd Derby v. Morgannwg - Ail ddiwrnod

Morgannwg - 236 a 188 gan wyth wiced

Swydd Derby - 335 am 5 wiced a 71-2

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.