Gweithwyr yn erbyn symud swyddfa o Gaernarfon i Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Roedd dros 100 o bobl yn bresennol mewn rali yng Nghaernarfon i brotestio ynglŷn â chynlluniau cwmni Scottish Power i gau eu swyddfa gwasanaeth cwsmeriaid yn y dref.
Mae'r cwmni eisiau symud y ddarpariaeth, sy'n cynnwys y gwasanaeth Cymraeg, a'r 32 o weithwyr i Wrecsam.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi ymgynghori gyda staff ynglŷn â'r cynnig i symud.
Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, bod taith ddyddiol o Gaernarfon i Wrecsam dros 125 milltir ac yn "gwbl anymarferol i'r mwyafrif".
"Mewn gwirionedd, fe fydd yn arwain at golli cyflogaeth i'r bobl leol yma."
Dywedodd bod y swyddi yma yn gwbl werthfawr i Gaernarfon ac y byddai'r gweithwyr yn ei chael yn anodd canfod swyddi tebyg yn lleol.
Mae o'n galw am gyfarfod gyda Scottish Power i drafod y sefyllfa.
'Gyda'n gilydd'
Mae'n dweud bod y swyddfa yng Nghaernarfon hefyd yn darparu gwasanaeth Cymraeg ar gyfer cwsmeriaid.
Dywedodd un gweithiwr wrth BBC Cymru bod hyn yn "drist iawn".
"Rydym i gyd yn aros gyda'n gilydd ac yn gwneud ein gorau i rwystro hyn rhag digwydd - neu i ganfod gwaith gwell."
Yn ôl ScottishPower Energy Retail mae symud y gwaith yn ganlyniad o adolygiad i'w safleoedd yng Nghaernarfon, Queensferry, Warrington a Wrecsam, sy'n cyflogi 600 o staff.
Mae 10 o weithwyr yn Queensferry a 32 yng Nghaernarfon wedi cael cynnig adleoli i Wrecsam.
"Fydd 'na ddim newid i'w gwaith ac fe fyddan nhw'n cael iawndal am gostau teithio ychwanegol drwy broses lwfans," meddai llefarydd.
Mae 'na gyfnod arbrofol o tua thri mis hefyd wedi ei gynnig.
"Os ydi cyflogwyr yn dewis peidio teithio ar ôl y cyfnod arbrofi fydd o ddim yn rhwystro nhw rhag gwneud cais i adael y gwaith neu chwilio am swydd arall o fewn y cwmni," ychwanegodd y llefarydd.
Dywedodd y cwmni eu bod yn ymrwymo i gynnig gwasanaeth Cymraeg a fydd yn parhau o'r swyddfa yn Wrecsam.
Fe fydd y cyfnod ymgynghorol swyddogol yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin.