Hannah Mills a Saskia Clark yn ennill yr aur am hwylio
- Cyhoeddwyd

Hannah Mills a Saskia Clark
Cafodd yr hwylwraig o Gymru Hannah Mills ei choroni'n bencampwr byd yn y dosbarth 470.
Mae Mills a'i phartner Saskia Clark eisoes wedi sicrhau lle yn y Gemau Olympaidd yn Llundain fis Gorffennaf.
Llwyddodd Mills a Clark i ennill y fedal aur yn Barcelona ddydd Sadwrn.
Roedden nhw'n gydradd gyntaf ar ddechrau'r rhan olaf.
Ar wefan Facebook fe wnaeth y ddwy ddweud: "Rydan ni wedi gwneud hi.
"Mae hyn yn wych."
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol