Llanelli yn sicrhau lle yn Ewrop drwy guro'r Bala

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair Ewropa

Llanelli 2-1 Y Bala

Roedd goliau Rhys Griffiths a Lloyd Grist yn ddigon i Lanelli drechu'r Bala a sicrhau eu lle yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesa'.

Roedd goliau Griffiths a Grirst yn yr hanner cyntaf yn rhoi mantais i dîm Andy Legg yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Cymru ym Mharc Stebonheath ddydd Sadwrn.

Cafodd Lee Hunt gôl i'r Bala yn yr ail hanner.

Ond doedd honno ddim yn ddigon i'r Bala sicrhau eu lle yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Fe ddaeth tîm Colin Caton yn agos at orfodi amser ychwanegol ond roedd Llanelli yn drech na nhw ac yn sicrhau eu lle yn Ewrop am y seithfed tymor yn olynol.

Blaen bysedd

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi tri munud yn unig gydag ergyd gan Griffiths, y prif sgoriwr, dderbyniodd y bêl gan groesiad Jason Bowen.

Daeth ail gôl y tîm cartref wedi 18 munud wrth i Grist ergydio'r gic rydd.

Roedd cyfle gorau'r Bala yn yr hanner cyntaf pan wnaeth cic rydd Mark Connolly daro'r traws o flaen bysedd ceidwad Llanelli Craig Richards.

Aeth Ian Sheridan yn agos at sgorio i'r ymwelwyr yn yr ail hanner cyn i Hunt daro cefn y rhwyd gyda 15 munud i fynd cyn diwedd y 90.

Daeth yn agos at gôl arall ond fe wnaeth Richards arbed yn wych i atal cyn ymosodwr Y Rhyl a Bangor rhag dod a'r gêm yn gyfartal.

A gyda thri munud yn weddill, fe wnaeth ergyd Connolly daro'r traws wrth i Lanelli sicrhau lle yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesa'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol