Ymchwilio wedi i ddyn farw mewn tân yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 12pm ddydd Sadwrn
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i farwolaeth dyn ar ôl tân yng Nghaerdydd.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i fflat yn Warren Evans Court yn Yr Eglwys Newydd am 12pm ddydd Sadwrn.
Fe gafwyd hyd i gorff yng ngweddillion y fflat.
Dywedodd y criwiau nad oedd 'na larwm tân yn yr adeilad.
Mae'r Gwasanaeth Tân wedi cydymdeimlo gyda theulu'r dyn.
Maen nhw'n annog aelodau'r cyhoedd i sicrhau bod larymau tân sy'n gweithio yn eu cartrefi a bod llwybr dianc wdi ei drefnu.
Mae gwybodaeth a chyngor ar gael gan y gwasanaeth ar 0800 328 1830.