Cwpan Heineken: Leinster yn curo Ulster i gadw'r gwpan

Leinster yn dathlu ennill Cwpan Heineken Image copyright Getty Images
Image caption Leinster yn dathlu ennill Cwpan Heineken

Leinster 42 v 14 Ulster

Leinster gododd Cwpan Heineken, y tîm cyntaf i ennill y gwpan dair gwaith mewn pedair blynedd.

Roedden nhw'n wynebu Ulster yn y rownd derfynol yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Cafodd Sean O'Brien a Cian Healy geisiadau yn yr ahnner cyntaf oedd yn golygu bod Leinster 14-6 ar yr hanner wrth i Ruan Pienaar lwyddo gyda dwy gic gosb.

Roedd cais gosb ar ddechrau'r ail hanner yn gweld Leinster yn mynd ymhelalch ar y blaen (21-6) cyn i gais Dan Tuohy roi gobaith i Ulster.

Ond daeth ceisiadau gan Heinke van der Merwe a Sean Cronin i osod record newydd o bump cais yn y rownd derfynol.

Leinster yw'r ail dîm i lwyddo i amddiffyn a chadw Cwpan Heineken ar ôl Caerlŷr 10 mlynedd yn ôl.

Hefyd maen nhw'n ail i Toulouse am ennill mwy na dwywaith yn y gystadleuaeth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.