Chwilio arfordir Ynys Môn am ddyn

Map o'r ardal

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn 61 oed.

Teulu'r dyn wnaeth gysylltu gyda'r gwasanaethau brys i ddweud ei fod ar goll.

Dydi'r dyn ddim wedi cael ei enwi ond y gred yw ei fod wedi ei weld ddiwetha' yn ardal Bae Trearddur ar Ynys Môn.

Cafodd ei gar ei ddarganfod wedi ei barcio ar lon ger yr arfordir.

Mae o wedi cael ei ddisgrifio fel un a'i wallt yn britho, yn gwisgo crys a throwsus golau.

Mae gwylwyr y glannau, badau achub, y llu awyr a chŵn achub wedi bod yn helpu gyda'r chwilio.

Dywedodd yr heddlu bod yr ardal yn un poblogaidd gyda cherddwyr.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth neu a allai fod wedi gweld y dyn i gysylltu gyda nhw ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.