Pontypridd 15-13 Llanelli
- Cyhoeddwyd

Capten Pontypridd Chris Dicomidis yn codi tlws yr Uwchgynghrair
Pontypridd yw pencampwyr yr Uwch-gynghrair ar ôl gêm agos ar Heol Sardis yn erbyn Llanelli nos Wener yn y rownd derfynol.
Arwr y tîm cartref oedd Lewis Williams wnaeth sgorio pum cic gosb.
Llanelli a Craig Price gafodd unig gais y gêm wrth Jordan Williams gyfrannu wyth pwynt i'r ymwelwyr.
Fe wnaeth Llanelli ymdrechu'n ddewr ond roedd carfan Pontypridd yn llawer cryfach wrth iddyn nhw dalu'r pwyth am golli'r rownd derfynol yn y tymor diwethaf.
Roedd Pontypridd wedi gorffen ar frig y tabl, ddau bwynt o flaen Llanelli oedd yn ail.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol