Dyn ar goll oedd y corff ar draeth
- Cyhoeddwyd

Diflannodd Simon Andrew Jones ar Ebrill 9 yn dilyn noson allan yn Aberystwyth
Mae Swyddfa Crwner y gogledd-orllewin wedi cadarnhau mai corff Simon Andrew Jones o Landysul gafodd ei ganfod ar draeth yr wythnos ddiwethaf.
Cafwyd hyd i gorff ar draeth rhwng Aberdyfi a Thywyn yng Ngwynedd ac mae profion DNA wedi dangos mai hwn oedd corff Mr Jones.
Roedd y dyn 24 oed wedi mynd ar goll wedi noson allan yn Aberystwyth ar Ebrill 9.
Daeth rhywun o hyd i'w drwydded yrru ar draeth Aberystwyth bythefnos yn ddiweddarach.
Roedd ei deulu a'i gyfeillion yn dosbarthu taflenni yn yr ardal wrth geisio cael gwybodaeth am ei ddiflaniad.
Straeon perthnasol
- 6 Mai 2012
- 24 Ebrill 2012