Ffracio: Tyllu am nwy ym Mro Morgannwg?

  • Cyhoeddwyd
Tyllu am nwy siâlFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Gall hyd at £70bn o nwy siâl fod yn y creigiau o dan de Cymru yn ôl ymchwil

Bydd gwrandawiad apêl dau ddiwrnod yn penderfynu a ddylai tyllu am nwy ym Mro Morgannwg fynd yn ei flaen ai peidio.

Fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg wrthod y cais gwreiddiol gan Gerwyn Williams o gwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Llandŵ ar gyfer nwy siâl a nwy confensiynol.

Ond apeliodd y cwmni i Lywodraeth Cymru wnaeth gynnal ymchwiliad cyhoeddus ar ddechrau'r flwyddyn.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn poeni y gallai'r tyllu arbrofol arwain at dyllu pellach neu ffracio, sy'n golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear er mwyn eu gwahanu a rhyddhau'r nwy.

Daeargrynfeydd

Mae Louise Evans, un o arweinwyr y grŵp ymgyrchu The Vale Says No, yn berchen parc carafannau yn Llandŵ.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Rwy'n gwrthwynebu'r cynllun. Byddai safle'r tyllu dim ond 800 metr o fy musnes.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Louise Evans yn ofni y bydd tyllu am nwy yn atal ymwelwyr rhag ymweld â Bro Morgannwg

"Maen nhw'n bwriadu tyllu bob awr o'r dydd am chwe wythnos gan gynnwys penwythnosau.

"Rwy'n poeni am effaith y tyllu ar fy musnes."

Cafodd cwmni Coastal Oil and Gas ganiatâd cynllunio i dyllu am nwy o dan dir fferm yn Swydd Caent y llynedd.

Mae gwrthwynebwyr yn y DU ac America, lle mae'n cael ei wneud yn eang, yn dweud y gall ffracio achosi llygredd amgylcheddol a salwch ymhlith pobl leol.

Canllawiau

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill dywedodd panel o arbenigwyr, gafodd ei benodi gan Lywodraeth y DU, ei fod yn credu ei fod yn debygol y bydd mwy o ddaeargrynfeydd yn cael eu hachosi gan ffracio - yn debyg i ddau ddaeargryn bach ger Blackpool y llynedd - ond y byddan nhw'n rhy fach i achosi difrod adeileddol uwchben y ddaear.

Roedd yr adroddiad yn argymell gosod canllawiau llym gan gynnwys monitro digwyddiadau seismig.

Y gred yw y gall nwy siâl greu cyflenwadau ynni rhad.

Mae nifer o gwmnïau am ddefnyddio dull ffracio i dyllu am y nwy gan gynnwys yr un ym Mro Morgannwg.

Fe fydd Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn cyhoeddi canllawiau maes o law.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol