Muamba: Liam Stacey yn ymddiheuro am sylwadau hiliol
- Cyhoeddwyd

Mae'r myfyriwr gafodd ei garcharu am wneud sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol am bêl droediwr ar wefan Twitter wedi ymddiheuro gan ddweud ei fod wedi talu pris enfawr.
Siaradodd Liam Stacey am eu sylwadau mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen BBC Cymru - Week In Week Out - fydd yn cael ei darlledu nos Fawrth.
Cafodd Stacey, o Bontypridd, ei garcharu am 56 niwrnod ar ôl cyfadde' i wneud sylwadau ar y wefan am y pêl-droediwr Fabrice Muamba.
Dywedodd Stacey, gafodd ei ryddhau ar ôl bod yn y carchar am 28 diwrnod, fod ei weithred "dim ond yn dwpdra meddw".
'Ymgyrch casineb'
Ychwanegodd nid oedd yn gwybod pam y gwnaeth e osod ei sylwadau ar y wefan gan ychwanegu bod y weithred yn "gamgymeriad twp iawn iawn ac rwyf wedi talu pris mawr amdano".
"Rwy'n ceisio amgyffred â'r ffaith roeddwn i'n llanc cyffredin yn ceisio gwneud fy ngwaith coleg a chwarae rygbi gyda fy ffrindiau ond wythnos neu ddau yn ddiweddarach roeddwn i yn y carchar," meddai.
Mae'r rhaglen hefyd yn dadlennu sut y mae pobl sy'n cynnal ymgyrch casineb dienw ar-lein yn targedu'r bobl fwyaf agored i niwed.
Cafodd rhaglen Week In Week Out gymorth gan arbenigwr ar-lein dienw wnaeth geisio dal troseddwyr y we.
Dywedodd yr arbenigwr fod y troseddwyr hyn yn ceisio "cynhyrfu a gofidio pobl sy'n agored i niwed".
Ymysg y rheiny y mae troseddwyr y we'n yn targedu yw teuluoedd sy'n galaru.
Safle deyrnged
Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfweliad ag un troseddwr sy'n dweud bod ymosod ar bobl eraill yn ei wneud e'n teimlo'n well.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfweliad â mam Kirsty Wilkinson, gafodd ei llofruddio gan ei gŵr ym mis Mawrth 2009.
Cafodd ei safle deyrnged ar-lein ei hymosod gan droseddwyr y we.
Dywedodd mam Kirsty, Catherine Broomfield: "Mae geni dwll mawr yn fy nghalon fel y mae ond mae'r bobl hyn wedi gwneud y twll yn fwy."
Chafodd neb eu herlyn am wneud sylwadau am Kirsty Wilkinson.
Ond mae pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn mynnu bod troseddau ar-lein yn cael eu trin yn yr un modd â throseddau sy'n cael eu cyflawni "yn y byd go iawn".
'Cyfryngau cymdeithasol'
Dywedodd Jim Brisbane, prif erlynydd Gwasanaeth erlyn y Goron yng Nghymru: "Mae cyfryngau cymdeithasol, yn amlwg, yn cael eu mwynhau ac yn cael eu defnyddio'n gyfrifol gan y rhan fwyaf o bobl.
"Ond mae'n bwysig i ddweud wrth y rheiny sy'n tramgwyddo bod y gyfraith sy'n berthnasol ar gyfer ffurf eraill o gyfathrebu hefyd yn berthnasol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol."
Mae Fabrice Muamba yn dal i wella wedi iddo gael pall ar ei galon mewn gêm rhwng ei glwb Bolton Wanderers a Tottenham Hotspur yng Nghwpan yr FA ym mis Mawrth.
Penderfynodd Prifysgol Abertawe wahardd Stacey o'r Campws ond fe fydd yn cael sefyll ei arholiad terfynol fel ymgeisydd allanol.
Darlledir Week In Week Out ar BBC 1 Cymru am 10.35pm ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012