Clo o Dde Affrica yn ymuno â'r Scarlets

George Earle Image copyright Getty Images
Image caption Mae Earle yn chwarae i'r Cheetahs yng nghynghrair Super 15 hemisffer y De

Mae'r clo o Dde Affrica George Earle wedi arwyddo cytundeb tair blynedd i chwarae i dîm rygbi'r Scarlets.

Mae'r chwaraewr 25 oed, sydd heb gynrychioli ei wlad eto, yn chwarae i'r Cheetahs yng nghynghrair Super 15 hemisffer y De ar hyn o bryd.

Mae dyfodiad Earle i Barc y Sgarlets yn dilyn ymadawiad y tri chlo Lou Reed, Damian Welch a Dominic Day.

Mae Welch wedi ymuno â Chaerwysg ac fe fydd Day yn chwarae i Gaerfaddon y tymor nesaf.

Mae Reed, a chwaraeodd i Gymru yn ystod eu hymgyrch llwyddiannus i ennill y Gamp Lawn eleni, wedi cael ei gysylltu â'r Gleision.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.