Dau gwmni'n creu 120 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
MorrisonsFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Morrisons eu bod yn creu 90 o swyddi

Mae dau gwmni yn Sir y Fflint yn ehangu ac yn creu cyfanswm o 120 o swyddi.

Dywedodd Morrisons eu bod yn creu 90 o swyddi wrth fuddsoddi £6.4m yn eu ffatri Farmers Boy yng Nglannau Dyfrdwy.

Yn y cyfamser, mae cwmni cludo FTS Hatswell yn creu 30 o swyddi oherwydd buddsoddi £1m.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, gyfrannodd yn ariannol at y ddau brosiect, fod y swyddi'n "hwb i Lannau Dyfrdwy".

'Cynaliadwy'

Maen nhw wedi cyfrannu £635,000 at ehangu'r ffatri a £150,000 at ehangi'r cwmni cludo.

Daw'r arian o'r gronfa twf economaidd sy'n anelu at "gefnogi cwmnïoedd sy'n perfformio'n dda iawn ... ac yn gallu creu swyddi, ffyniant a Chymru gynaliadwy."

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, ei bod yn falch bod y llywodraeth yn gallu "cyfrannu'n ariannol at fusnesau sydd am ddatblygu ac am greu swyddi sy'n hollbwysig wrth hybu'r economi."