Rhybudd i gerddwyr am wiberod

  • Cyhoeddwyd
GwiberFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Ym mis Ebrill cafodd dyn ei frathu gan neidr wrth chwarae gyda'i gi mewn gardd ger Caernarfon

Mae swyddogion iechyd wedi cyhoeddi rhybudd i gerddwyr i gymryd gofal pe bai nhw'n dod i gysylltiad gyda gwiberod yn ystod yr haf.

Mae ffigyrau diweddaraf gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (GGCW) yn datgan cafodd 196 o bobl eu brathu gan nadroedd yn Lloegr, Yr Alban a Chymru rhwng 2009 a 2011.

Roedd 12 o'r achosion hyn yn ardal côd post SA sy'n cynnwys rhannau o Sir Gâr, Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal ag Abertawe a Phort Talbot.

Hefyd cafwyd adroddiadau o saith achos yn ardal côd post LL sy'n cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Wrecsam o'i gymharu ag wyth achos yn yr Alban.

Sgidiau addas

Dywedodd yr Athro Simon Thomas o'r GGCW fod niferoedd gwiberod wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond bod yn rhaid i gerddwyr ddal i gymryd gofal.

"Gall brathiad y wiber fod yn gas iawn yn enwedig i blant bach.

"Felly mae'n rhaid i bobl gymryd gofal pan maen nhw'n mynd am dro gan wisgo sgidiau addas a pheidio â thrafod nadroedd.

"Ambell waith gall y wiber, sy'n wenwynig, gael ei chamgymryd am neidr nad yw'n wenwynig fel y neidr lwyd neu'r neidr lefn ac mae pobl yn meddwl ei fod yn ddiogel i'w codi."

Ym mis Ebrill eleni cafodd dyn ei frathu gan neidr wrth chwarae gyda'i gi mewn gardd yn Llanrug, ger Caernarfon.

Ceisiodd y dyn symud y neidr oddi wrth y ci ond cafodd ei frathu ar ei law dde.

Yna wrth geisio symud y neidr o'r ardd gan ei roi mewn clustog cafodd ei frathu deirgwaith eto.

Aed â'r dyn i Ysbyty Gwynedd a chafodd yr RSPCA eu galw i symud y neidr oedd mewn clustog yng nghar y dyn.

Mae modd cysylltu â llinell gymorth 24 awr yr RSPCA ar 0300 1234 999 pe bai chi'n gweld neidr yn yr ardd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol