Ail ddiwrnod y Fflam yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ar ail ddiwrnod ymweliad y Fflam Olympaidd â Chymru - sef wythfed diwrnod y daith o amgylch Prydain, mae'r ffagl yn teithio o Gaerdydd i Abertawe.
Ond nid taith syml ar hyd traffordd yr M4 yw hon, ond cyfle i bobl cymoedd y de i gael cipolwg ar un o draddodiadau hynaf y Gemau Olympaidd.
Ar ôl gadael Caerdydd yn blygeiniol, cafodd y ffagl ei chludo drwy Fro Morgannwg cyn troi'n ôl am y brifddinas a symud ymlaen tua'r gogledd.
Wedi taith drwy Ferthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, mae'r ffagl yn troi am Ben-y-bont ar Ogwr.
Bydd y Fflam yn mynd drwy ardal Castell-nedd Port Talbot cyn gorffen y diwrnod yn Abertawe.
Ar ôl treulio'r noson yn y ddinas, bydd y Fflam yn symud tua'r gorllewin fore Sul.
Amcangyfrif o amseroedd Taith y Fflam :-
- 06:29 Caerdydd
- 07:00 Dinas Powys
- 07:16 Y Barri
- 08:59 Caerdydd
- 09:50 Caerffili
- 10:40 Pontypridd
- 11:09 Merthyr Tudful
- 13:04 Treherbert
- 13:19 Ynyswen
- 13:24 Treorci
- 13:48 Nant-y-moel
- 14:08 Dyffryn Ogwr
- 14:29 Bryncethin
- 14:43 Pen-y-bont ar Ogwr
- 15:17 Trelales
- 15:31 Y Pîl
- 16:06 Margam
- 16:24 Taibach
- 16:32 Port Talbot
- 16:44 Llansawel
- 17:09 Castell-nedd
- 17:45 Abertawe