Trydydd diwrnod y Fflam yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Ar drydydd diwrnod ei ymweliad â Chymru, bydd y Fflam Olympaidd yn anelu am y gorllewin.

O safbwynt milltiroedd, dyma fydd y diwrnod hiraf yn nhaith y Fflam yng Nghymru, gan ddilyn yr arfordir drwy siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.

Bydd y ffagl yn gadael Abertawe ben bore cyn croesi i Sir Gaerfyrddin ac ymweliad â Llanelli, Porth Tywyn, Cydweli a Chaerfyrddin ei hun.

Wedi taith o amgylch Sir Benfro, gan fynd i Hwlffordd, Abergwaun a Threfdraeth, bydd y fflam yn mynd i Geredigion.

Fe fydd rhedwyr yn cludo'r ffagl am 300 metr yr un wrth i'r Fflam deithio drwy Aberteifi ac Aberaeron, lle bydd y ffagl yn cael ei chludo ar gefn ceffyl Cob Cymreig.

Mae disgwyl i'r Fflam orffen y daith am y diwrnod yn Aberystwyth, gan gyrraedd am tua 6:14pm.

Amcangyfrif o amseroedd Taith y Fflam :-

  • 06:56 Abertawe
  • 09:07 Llanelli
  • 10:24 Porth Tywyn
  • 11:15 Cydweli
  • 11:51 Caerfyrddin
  • 12:39 Hwlffordd
  • 14:44 Abergwaun
  • 15:09 Trefdraeth
  • 15:43 Aberteifi
  • 16:18 Sarnau
  • 16:27 Brynhoffnant
  • 16:47 Llanarth
  • 17:21 Aberaeron
  • 17:41 Llanon
  • 17:54 Llanrhystud
  • 18:14 Aberystwyth