Pedwerydd diwrnod y Fflam yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Ar ei bedwerydd diwrnod yng Nghymru, bydd y Fflam Olympaidd yn teithio i'r gogledd.

Bydd y ffagl yn cychwyn o Aberystwyth fore Llun, cyn croesi am gyfnod byr i Bowys, ac i Fachynlleth.

Yno bydd yn ymweld â'r Ganolfan Dechnoleg Amgen cyn symud ymlaen i Wynedd.

Wedi crwydro drwy Ddolgellau, bydd y Fflam yn mynd i galon ardal y chwareli yn Ffestiniog.

Fe fydd rhedwyr yn cludo'r ffagl am 300 metr yr un, ac yn anelu wedyn am Borthmadog a Phwllheli cyn troi yn ôl am Gaernarfon.

Fe fydd y rhedwyr yn cludo'r ffagl drwy'r Felinheli cyn gorffen y diwrnod ym Mangor.

Amcangyfrif o amseroedd Taith y Fflam :-

  • 08:28 Aberystwyth
  • 09:14 Bow Street
  • 09:35 Tal-y-bont
  • 09:45 Tre Taliesin
  • 10:07 Machynlleth
  • 10:44 Dolgellau
  • 11:31 Llan Ffestiniog
  • 11:40 Blaenau Ffestiniog
  • 13:20 Porthmadog
  • 13:39 Cricieth
  • 14:04 Pwllheli
  • 16:10 Bontnewydd
  • 16:22 Caernarfon
  • 17:17 Y Felinheli
  • 17:39 Bangor