Pumed diwrnod y Fflam yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd tipyn o amrywiaeth i daith y Fflam ar bumed diwrnod ei ymweliad â Chymru ddydd Mawrth.

Dyna fydd unfed diwrnod ar ddeg y daith drwy Brydain, ac fe fydd y ffagl yn cael ei chludo dros dir a môr.

Bydd y Fflam yn dechrau'r diwrnod yng Nghastell Biwmares ar Ynys Môn, ond fe fydd y Fflam wedi yn teithio ar fâd achub y dref i Borthaethwy cyn cael ei gario dros Bont enwog y Borth dros y Fenai.

Fe fydd y ffagl yn troi tua'r dwyrain ac ar hyd arfordir y gogledd gan ymweld â threfi glan-môr Llandudno, Bae Colwyn a'r Rhyl cyn gadael Cymru am gyfnod nos Fawrth, ac aros dros nos yng Nghaer.

Fe fydd y Fflam yn dychwelyd i Gymru am gyfnod ddydd Mercher i ddod â'i daith i Gymru i ben.

Amcangyfrif amseroedd Taith y Fflam :-

  • 07:12 Biwmares
  • 07:53 Porthaethwy
  • 08:40 Conwy
  • 09:09 Deganwy
  • 09:31 Llandudno
  • 11:21 Bae Penrhyn
  • 11:30 Llandrillo-yn-Rhos
  • 11:52 Bae Colwyn
  • 13:24 Hen Golwyn
  • 13:43 Abergele
  • 14:25 Towyn
  • 14:37 Bae Cinmel
  • 14:52 Rhyl
  • 15:31 Rhuddlan
  • 16:10 Cei Conna
  • 16:33 Shotton
  • 16:40 Queensferry
  • 17:08 Penarlâg
  • 17:31 Saltney
  • 17:47 Caer