Glo brig ar safle'r Tŵr yn Hirwaun
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith wedi dechrau o symud glo o safle glo brig Glofa'r Tŵr yng Nghwm Cynon.
Fe gaeodd pwll glo dwfn Y Tŵr yn 2008 ond nawr mae'r gwaith wedi dechrau ar safle glo brig.
Mae disgwyl i'r safle gynhyrchu tua 6 miliwn tunnell o lo dros gyfnod o chwe blynedd.
Bydd y glo yn cael ei gludo i orsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Ar ôl i'r pwll dwfn gau fe wnaeth 240 o lowyr fuddsoddi £8,000 o'u harian diswyddo mewn cynllun ar y cyd gyda chwmni ynni Hargreaves.
Roedd rhai pobl leol yn anhapus gyda'r safle glo brig.
200 acer
Ond dywed rheolwyr y Tŵr y bydd y safle yn cael ei adfer unwaith i'r glo gael ei symud.
Cafodd cais cynllunio ar gyfer y safle glo brig sy'n 200 acer ei gymeradwyo gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Y dyn tu cefn i'r cynllun yw Tyrone O'Sullivan.
Fo hefyd oedd yn arwain cais y glowyr i brynu pwll dwfn Y Tŵr pan oedd yn wynebu cael ei gau yn 1994.
Cafodd y pwll ei brynu gan 239 o lowyr yn 1995 ar gost o £2 miliwn.
Rhybuddiodd rhai arbenigwyr na fyddai'r cynllun yn gweithio, ond parhaodd y pwll ar agor am 13 o flynyddoedd.
Straeon perthnasol
- 25 Ionawr 2008
- 18 Awst 2010
- 25 Ionawr 2008
- 25 Ionawr 2008