Cyn-brif gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Terry Grange, wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu farw cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Terry Grange wedi salwch hir.
Bu Mr Grange, a oedd yn ei 60au cynnar, yn brif gwnstabl am saith mlynedd.
Ef oedd prif swyddog Cymdeithas Prif Gwnstabliaid wrth ddelio gydag achosion o gam-drin plant a rheoli troseddwyr peryglus.
Dywedodd Prif Gwnstabl presennol Heddlu Dyfed-Powys, Ian Arundale: "Mae ein meddyliau a chydymdeimlad gyda gwraig Mr Grange a'i deulu.
"Mae gwaith Terence Grange tra wrth y llyw yn Nyfed Powys wedi cael effaith parhaol ar y Deyrnas Unedig."
Dywedodd Mr Arundale ei fod wedi cyflawni gwaith pwysig ym meysydd cam-drin plant a throseddwyr peryglus.
"Fe wnaeth gynorthwyo yn y gwaith o sefydlu polisi cenedlaethol i'r heddlu yn y meysydd hyn, a gyda materion eraill yn ymwneud a thrais y tu mewn a thu allan i'r teulu.
"Roedd ei waith ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yn neilltuol wrth sicrhau trefniadau i fonitro troseddwyr rhyw yn y gymuned.
"Hefyd bu'n gweithio gyda'r llywodraeth wrth lunio "Cyfraith Sarah".
Fe wnaeth o ymddeol yn 2007 wedi sgandal am gamddefnyddio cerdyn credyd corfforaethol.
Negeseuon e-bost
Yn 2008 fe wnaeth ymchwiliad gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu ddweud ei fod yn euog anghysonderau gyda chostau a chamddefnydd e-byst.
Cyn-gariad Mr Grange wnaeth yr honiadau o gamymddygiad yn ei erbyn ddau fis ar ôl i'w perthynas ddod i ben.
Honnodd fod y gŵr priod a thad i dri o blant wedi anfon 102 o negeseuon e-bost iddi hi drwy gyfrifiadur yr heddlu.
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn Mr Grange am gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Straeon perthnasol
- 20 Ebrill 2008
- 6 Mai 2008