Liam Stacey yn cael sefyll arholiad ond ddim yn dychwelyd i'r Brifysgol
- Cyhoeddwyd

Dywed Prifysgol Abertawe na fydd myfyriwr oedd yn euog o gyhoeddi sylwadau hiliol ar wefan Twitter yn cael dychwelyd i'r campws.
Cafodd Liam Stacey, 21 oed o Bontypridd, ei garcharu am 56 niwrnod ar ôl cyfadde' i wneud sylwadau ar y wefan am y pêl-droediwr Fabrice Muamba.
Er na fydd yn cael dychwelyd i'r campws penderfynodd gwrandawiad disgyblu y bydd y myfyriwr Bioleg yn cael sefyll arholiad terfynol "fel ymgeisydd allanol mewn lleoliad arall" y flwyddyn nesaf.
"Os yn llwyddiannus, bydd yn cael graddio in absentia," meddai'r llefarydd.
Campws
"Fel rheol, ni fyddai'r Brifysgol yn cyhoeddi canlyniad unrhyw achos disgyblu yn gyhoeddus, ond yn yr achos yma, rydym yn gwneud hynny gyda chaniatâd y myfyriwr," meddai'r brifysgol mewn datganiad.
"Mae Prifysgol Abertawe yn gwrthwynebu hiliaeth ac mae ganddi bolisïau sy'n sicrhau cydraddoldeb i staff a myfyrwyr.
"Rydym yn cymryd gweithredoedd y myfyriwr yma o ddifrif ac o'r herwydd, nid yw'n rhan o gymuned y campws mwyach.
"Rydym yn ymwybodol ei fod wedi derbyn dedfryd o garchar ac wedi'i gosbi am yr hyn a wnaeth.
"Mae wedi dangos ei fod yn edifar am yr hyn a wnaeth ac rydym yn fodlon ei fod yn deall iddo ymddwyn mewn ffordd annerbyniol sydd wedi dwyn anfri ar y Brifysgol.
"O ystyried y gosb mae wedi'i derbyn a'r edifeirwch mae wedi dangos a'i fod yn fyfyriwr yn ei flwyddyn olaf, rydym wedi penderfynu caniatáu iddo sefyll ei arholiadau."
Cafodd Stacey ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill y wefan hysbysu'r heddlu.
Ymddiheuro
Daeth ei sylwadau ar ôl i bêl-droediwr Bolton Wanderers gael ei gludo i'r ysbyty wedi i'w galon stopio yn ystod y gêm rhwng Bolton a Tottenham Hotspur.
Roedd y ddau dîm yn cystadlu yn rownd gogynderfynol Cwpan yr FA ar Fawrth 17.
Ar ôl ei ryddhau fe wnaeth Stacey ymddiheuro gan ddweud ei fod wedi talu pris enfawr.
Siaradodd mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen BBC Cymru - Week In Week Out - fydd yn cael ei darlledu nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- 22 Mai 2012
- 30 Mawrth 2012
- 29 Mawrth 2012
- 27 Mawrth 2012
- 19 Mawrth 2012