Stephen Jones allan o dim y Barbariaid i wynebu Cymru

  • Cyhoeddwyd
Stephen Jones yng nghyrs Cymru yn wynebu'r Barbariaid yn 2011Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Stephen Jones yng nghyrs Cymru yn wynebu'r Barbariaid yn 2011

Mae'r chwaraewr sydd wedi ennill y mwya' o gapiau dros Gymru wedi ei anafu a fydd o ddim yn wynebu ei wlad yn nhîm y Barbariaid yng Nghaerdydd ar Fehefin 2.

Roedd y Barbariaid wedi gobeithio y byddai Stephen Jones yn y garfan ac yn ail-ymuno gyda'i gynbartner rhyngwladol Dwyane Peel.

Ond mae anafiadau wedi taro'r ddau chwaraewr.

Yr unig Gymry fydd yng ngharfan yr ymwelwyr i wynebu Cymru fydd Shane Williams a Duncan Jones.

Un arall sydd wedi ei anafu ac allan o garfan y Barbariaid yw Schalk Brits o'r Saracens.

Mae'r ymwelwyr wedi ychwanegu Casey Laulala, Mark Chisholm a Cornelius van Zyl i'r garfan.

Fe fydd y Barbariaid yn wynebu Lloegr ar Fai 27 ac Iwerddon yng Nghaerlŷr ar Fai 29 cyn teithio i Gaerdydd.

Fe fydd chwaraewyr Cymru yn ennill capiau am chwarae yn y gêm, yn wahanol i chwaraewyr Lloegr ac Iwerddon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol