Casnewydd eisiau sicrhau cartref ar gyfer y tymor nesaf

Rodney Parade Image copyright bbc
Image caption Rodney Parade yw cartref tîm rygbi Dreigiau Gwent

Mae Cadeirydd Clwb Pêl-Droed Casnewydd wedi dweud eu bod am wybod yr wythnos hon a fyddan nhw'n chwarae yn Rodney Parade neu beidio.

Dywedodd Chris Blight fod Parc Spytty "yn anaddas" a bod angen symud i gartref clybiau rygbi Dreigiau Gwent a Chasnewydd.

"Mae angen arwyddo rhywbeth cyn dydd Gwener ...," meddai.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn rheoli 50% o'r clwb.

'Ychydig o ddyddiau'

"Chwarae teg i Rodney Parade rhaid iddyn nhw gael ychydig o ddyddiau i lunio'r cytundeb.

"Ond rydyn ni'n dymuno arwyddo erbyn dydd Gwener er mwyn i ni allu mynd at Dennis Strudwick (Rheolwr Cyffredinol y Gynghrair Pêl-droed) a dweud: 'Mae 'na gytundeb a'r tymor nesaf fe fyddwn ni'n chwarae yn Rodney Parade'."

Os na fydd cytundeb, meddai, fe fyddan nhw'n chwarae ym Mharc Spytty.

Mae 'na le ar gyfer 11,000 yn Rodney Parade, cartref Dreigiau Gwent a thîm rygbi Casnewydd.

'Problem'

"Dydi'r maes ym Mharc Spytty ddim yn dderbyniol ... dwi'n meddwl bod 'na broblem yno," meddai Cadeirydd Clwb Rygbi Dreigiau Gwent, Martyn Hazell.

"Dydi Casnewydd ddim yn chwarae bob dydd Sadwrn.

"Dwi'n meddwl bod 'na ambell i gêm ganol wythnos ac os gallwn ni lwyddo i sicrhau na fydd y pêl-droed yn gwrthdaro gyda'r rygbi fe fyddwn ni'n barod iawn i roi cartref iddyn nhw."

Ond mae 'na drafferthion wedi bod yn Rodney Parade.

Canslo

Cosbodd trefnwyr Cwpan LV y rhanbarth am ganslo'r gêm yn erbyn y Saracens - roedd y cae wedi rhewi a llifogydd wedi effeithio ar y cae yn ystod y tymor.

Yn y cyfamser, mae'r Alltudion wedi gorfod newid dyddiadau gemau oherwydd cyflwr y cae ym Mharc Spytty.

Cyngor Sir a Dinas Casnewydd sy'n rheoli ac yn berchen ar Barc Spytty lle mae timau Llanwern yn chwarae a chlwb athletau Newport Harriers yn ymarfer.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.