Hufenfa: Uno i greu'r cwmni mwya' yn Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni cydweithredol o ffermwyr llaeth sy'n gyfrifol am hufenfa yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, wedi dweud bod cynnig i uno gyda grŵp mawr o Ewrop.
Deellir na fydd hyn yn effeithio ar yr 80 o swyddi ar y safle.
Dywedodd uwchswyddogion Milk Link eu bod am uno gyda chwmni Arla Foods sy'n eiddo i ffermwyr o'r Almaen, Denmarc a Sweden.
Fe fydd hyn yn creu'r cwmni mwya'r farchnad laeth yn y DU.
£2 biliwn
Os yw'r cynnig yn llwyddiannus, bob blwyddyn bydd y grŵp newydd yn prosesu dros 3 biliwn litr o laeth, tua chwarter yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu yn y DU.
Bydd y gwerthiant dros £2 biliwn.
Tair blynedd yn ôl fe wnaeth Milk Link gymryd drosodd y ffatri yn Llandyrnog ar ôl i gwmni cydweithredol Dairy Farmers of Britain ddod i ben.
Mae gan y cwmni cydweithredol ffatri yng Nghroesoswallt hefyd.
Cymeradwyo
Os bydd uno bydd aelodau Milk Link yn rhan o un o hufenfeydd cydweithredol mwya' Ewrop.
Mae aelodau Milk Link a Bwrdd Cynrychiolaeth Arla Foods wedi cymeradwyo'r cynnig.
Yn y DU mae'r farchnad wedi ei seilio ar gynnyrch ffres a hir-oes o ran llaeth, hufen, llaeth â blas unigol, caws Cheddar, caws arbenigol, menyn a chynnyrch llaethdy.
Eisoes mae Arla Foods wedi buddsoddi £500 miliwn yn y farchnad yn y DU wrth sefydlu enwau fel Cravendale, Lurpak ac Anchor.
Ar hyn o bryd mae Arla yn adeiladu un o'r canolfannau prosesu llaeth mwya' yn y DU yn Aylesbury, Sir Buckingham.
'Cynaliadwy'
"Fe fydd y busnes mwy yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r ffermwyr," meddai Peter Lauritzen, Prif Weithredwr Arla Foods UK.
"Mae gan Arla record gref o fuddsoddi mewn adnoddau a brandiau yn y DU.
"Gyda'n gilydd, gallwn gynnig amrywiaeth eang o gynnyrch i'n cwsmer o safon uchel."
Dywedodd Neil Kennedy, Prif Weithredwr Milk Link: "Rydym yn credu'n gryf y bydd hyn yn creu llwyfan cryf ar gyfer dyfodol cynaliadwy i aelodau Milk Link.
"Mae 'na 1,600 o aelodau yn Milk Link.
"Fe fydd ein ffermwyr yn elwa ar weledigaeth hir dymor strategaeth Arla Foods."
Straeon perthnasol
- 8 Mehefin 2009
- 3 Mehefin 2009