Cynnig arbennig ar docynnau'r Urdd ar y diwrnod olaf yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Baner yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r paratoadau yn parhau yn Eryri ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2012

Pythefnos cyn i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yn Eryri, mae'r trefnwyr yn rhoi cyfle i bobl brynu tocynnau drwy gynnig arbennig.

Caiff ymwelwyr i Eisteddfod yr Urdd Eryri fanteisio ar gynnig arbennig i brynu dau docyn oedolyn am bris un a bydd plant yn cael mynd i'r Maes yng Nglynllifon am ddim ar ddydd Sadwrn olaf yr ŵyl, Mehefin 9.

Dyma'r drydedd flwyddyn ers i'r cynllun gael ei gynnal ac mae ar gael i unrhyw un sy'n mynychu'r Maes ar y dydd Sadwrn olaf.

"Fydd dim angen llenwi ffurflen na chofrestru er mwyn manteisio ar y cynnig," eglurodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

"Mae'r gwahoddiad yn gynnes i bawb ac edrychwn ymlaen at groesawu nifer fawr o ymwelwyr i'r Maes yng Nglynllifon ar ddydd Sadwrn Mehefin 9 - yn hen wynebau a rhai newydd."

Wrth i'r trefniadau munud olaf gael eu gwneud i'r Eisteddfod a fydd yn dechrau ar Fehefin 4, mae 'na gais am fwy o stiwardiaid i helpu yn ystod yr wythnos.

Cymorth

Mae pob stiward yn cael tocyn i'r Maes, a stiwardiaid sy'n gwneud dwy sesiwn hefyd yn cael tocyn bwyd.

"Mae brwdfrydedd pobl leol yn Eryri wedi bod yn anhygoel wrth drefnu'r Eisteddfod," ychwanegodd Mr Siôn.

"Mae tîm o stiwardiaid eisoes yn eu lle ar gyfer yr wythnos, ond mae lle i fwy wirfoddoli.

"Mae angen stiwardiaid ym mhob cwr o'r Maes, o'r Pafiliwn i'r rhagbrofion o'r arddangosfa Gelf a Chrefft i'r Ganolfan Groeso.

"Os oes unrhyw un hoffai wirfoddoli yna os gwelwch yn dda cysylltwch gyda'r Swyddfa ar 0845 257 1613."

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar yrwyr i ddilyn yr arwyddion wrth deithio i'r Maes.

Bydd system unffordd yn bodoli o fore Llun Mehefin 4 hyd nos Sadwrn Mehefin 9.

Bydd ceir yn cael teithio lawr Allt y Glyn a fyny'r Allt Goch.

O'r herwydd mae'n bwysicach nag erioed bod pawb yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ôl y trefnwyr.

Mae'r manylion ar sut i gyrraedd y Maes, a manylion am wasanaeth bysiau arbennig, ar y wefan.

Dydd Llun fe agorwyd y Ganolfan Groeso am y tro cyntaf, lle mae cyfle i'r cyhoedd fynd i brynu tocynnau'r Maes, a thocynnau'r cyngherddau a'r sioeau gyda'r nos hefyd.

Mae'r tocynnau hefyd ar gael drwy ffonio 0845 257 1639 neu ar y wefan.