Macmillan yn lansio adroddiad ar effaith ariannol canser

  • Cyhoeddwyd
Claf yn derbyn triniaeth canser
Disgrifiad o’r llun,
Mae pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn wynebu costau eraill yn ogystal â cholledion incwm a theithio i'r ysbyty, yn ôl yr adroddiad

Mae elusen canser yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb sy'n dioddef o ganser yn cael cyngor ariannol.

Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyhoeddi Cyfrif Cost Canser - yr adroddiad cynhwysfawr cyntaf i dlodi canser yng Nghymru.

Mae'r adroddiad, sy'n seiliedig ar ymchwil gan The Monitor Group, yn edrych ar effaith materion ariannol ar bobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser ar draws Cymru yn dilyn diagnosis.

Mae'r rhain yn cynnwys costau teithio a dillad a biliau uwch sy'n digwydd yn aml ar adeg pan fo rhai pobl yn wynebu incwm is.

Canfu Cyfrif Cost Canser fod yn rhaid i bobl sy'n byw ym Mhowys ymdopi â'r cynnydd mwyaf yn eu gwariant.

Sefyllfa ariannol

Ar gyfartaledd bydd angen i berson sy'n byw ym Mhowys ddod o hyd i £2,500 yn ychwanegol ar gyfer biliau dros gyfnod o bum mlynedd wedi diagnosis o ganser.

Mae cost teithio yn unig dros y cyfnod hwn i glaf ym Mhowys, sef amcangyfrif o £1,440, yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd i Gymru.

Yn y cyfamser canfu'r adroddiad mai pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser ym Mro Morgannwg sy'n dioddef y colledion incwm mwyaf - hyd at £18,000 dros bum mlynedd wedi'u diagnosis.

Ymysg y canfyddiadau eraill a ddatgelir yn yr adroddiad:

  • Dywed dros 50% o bobl sydd â diagnosis o ganser eu bod yn poeni am eu sefyllfa ariannol.
  • Dywed mwy na 4 o bob 10 o gleifion canser bod effaith ariannol canser wedi achosi mwy o straen a phryder iddyn nhw, ac mae bron i chwarter yn dweud iddo achosi straen ar eu perthynas ag eraill
  • Mae 95% o gleifion yn wynebu cynnydd mewn costau teithio wrth iddyn nhw deithio yn ôl ac ymlaen o'r ysbyty ar gyfer triniaeth ac apwyntiadau dilynol. Ar gyfartaledd, amcangyfrifir bod hyn yn gyfanswm o £275 i bob claf yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan godi i £400 dros bum mlynedd
  • Mae 43% o'r rhai hynny sydd mewn gwaith ar adeg eu diagnosis yn dioddef colledion incwm. O'r rhai sydd mewn gwaith ar adeg eu diagnosis, bydd yn rhaid i tua 15% roi'r gorau i weithio yn gyfan gwbl a bydd angen i dri o bob 10 newid eu statws gweithio mewn rhyw ffordd
  • Mae colledion incwm ar eu mwyaf yn y flwyddyn gyntaf wedi diagnosis, ac ar gyfartaledd mae unigolyn yn colli amcangyfrif o 20% - £5,500 - o'u henillion cyflogaeth. Dros bum mlynedd, amcangyfrifir bod colledion incwm ar gyfartaledd yn £16,5008.

Yn ogystal â cholledion incwm a theithio i'r ysbyty, mae pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn wynebu costau eraill.

Amcangyfrifir bod 40% yn wynebu costau dillad. Gall triniaethau fel cemotherapi achosi i rywun fagu neu golli cryn bwysau. Efallai y bydd angen eitemau eraill arnyn nhw fel wigiau a bandanas.

Gall biliau tanwydd godi gan fod cleifion gartref yn fwy na'r arfer ac maen nhw'n fwy tebygol o deimlo'r oerfel yn ystod triniaeth ac wedi hynny.

Diagnosis

Roedd Mair Dempster-Jones yn uwch reolwr yn y gwasanaeth iechyd cyn cael diagnosis o ganser y fron ym mis Rhagfyr 2008.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mair Dempster-Jones mai teithio i'r ysbyty ac yn ôl oedd ei chost fwyaf

Cafodd Mrs Dempster-Jones, sy'n dod o'r Wyddgrug, lawdriniaeth i waredu lwmp a mastectomi cyn cael chwe chylch o gemotherapi, dros gyfnod o bum mis, yn Ysbyty Maelor, ac yna tair wythnos o radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Roedd yr effaith ariannol yn enfawr arnom ni, ac mae'n siŵr ei bod i bawb arall hefyd," meddai.

"Roedd gennym ddau incwm da yn y cartref, cymerodd Alwyn fy ngŵr ymddeoliad cynnar ond cafodd ddiagnosis o ganser brin flwyddyn yn ddiweddarach, ac fel pe na bai hynny'n ddigon, cefais ddiagnosis ohono yn fuan wedyn.

"Bu'n rhaid i mi roi'r gorau i weithio ac yna dechreuodd blwyddyn o frwydr gyda fy nghyflogwr i geisio cael gafael ar fy mhensiwn.

"Costiodd hyn £2,000 mewn ffioedd cyfreithiol i mi ond o'r diwedd cafodd fy mhensiwn bychan ei ryddhau yn gynnar.

"Ond dyma sut mae hi yn achos canser. Mae'r rhai sy'n gweithio yn cael eu taro'n galed iawn ac nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer canser mewn gwirionedd gan ei fod yn rhywbeth sy'n digwydd i rywun arall."

Dywed Mrs Dempster-Jones mai teithio i'r ysbyty ac yn ôl oedd eu cost fwyaf.

Costau ychwanegol

Mae hi'n amcangyfrif eu bod wedi teithio dros 14,000 o filltiroedd wrth ymweld ag ysbytai dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae'n ychwanegu eu bod hefyd wedi gorfod talu am gostau ychwanegol nad oedden nhw wedi'u disgwyl.

Ar hyn o bryd, nid yw cleifion a'u teuluoedd yn cael cynnig cymorth a chyngor ariannol fel mater o drefn wrth iddyn nhw gael diagnosis.

Dywed llai na hanner y bobl sydd â diagnosis o ganser eu bod yn derbyn cyngor neu gymorth ariannol o unrhyw ffynhonnell.

Mae'r ffigwr hwn yn is fyth ymysg y rhai dros 65 oed, gyda llai nag un o bob tri yn derbyn cymorth.

Yn ogystal â nodi'r problemau ariannol, mae'r adroddiad yn edrych ar sut y gellid cynnig mwy o gymorth i bobl sydd wedi'u heffeithio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn dweud y dylai mwy o driniaeth a gofal gael eu darparu mewn ysbytai lleol.

Dywedod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ond mae'n bosib bod rhaid i gleifion sy'n dioddef o ganser mwy prin deithio i ganolfannau canser arbenigol.

"Mae'r cynllun yn dweud bod gofynion cleifion yn cael eu hasesu a bod gwybodaeth ynghylch help a chymorth ariannol yn cael eu darparu yn dilyn diagnosis."

Ychwanegodd fod cleifion canser yn derbyn presgripsiynau a pharcio mewn ysbytai yn rhad ac am ddim yng Nghymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol