Bragdy Brains i agor 30 caffi newydd

  • Cyhoeddwyd
SA BrainsFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Prynodd cwmni SA Brain, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd , gwmni Cofffee #1 y llynedd.

Mae bragdy annibynnol mwyaf Cymru yn bwriadu agor tua 30 caffi yn ystod y tair blynedd nesaf.

Prynodd cwmni SA Brain, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd , gwmni Cofffee #1 y llynedd.

Daw'r datganiad wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod gwerthiant y bragdy mewn tafarndai'r cwmni wedi codi 4%.

Mae cwmni Brains yn credu bod yna botensial yn y farchnad goffi ac maent yn bwriadu adeiladu 50 caffi yn Ne Cymru a De Orllewin Lloegr yn ystod y tair blynedd nesaf.

'Arallgyfeirio'

Mae cwmni SA Brain yn cyflogi tua 2,000 o bobl a chododd elw'r cwmni 6% y llynedd.

Yn ystod yr Hydref y llynedd prynodd Brains gwmni Cofffee #1, sy'n cynnwys 15 siop goffi ar y stryd fawr yn ne Cymru a de orllewin Lloegr ac maent wedi agor tair siop arall ers hynny.

Dywedodd Prif Weithredwr Brains, Scott Waddington: "Mae'r ymchwil yn awgrymu bydd y farchnad goffi yn dal i godi rhwng 5% a 7% yn ystod y pum mlynedd nesaf, yn debyg i beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

"Er bod mwy o siopau coffi wedi eu hagor yn y Deyrnas Unedig mae gan y farchnad goffi dipyn o waith i'w wneud cyn iddi ddal marchnadoedd fel marchnad yr Unol Daleithiau".

Dywedodd y dadansoddwr soddgyfrannau, Sam Hart, fod penderfyniad Brains i arallgyfeirio i'r farchnad goffi yn "mwy na thebyg yn adlewyrchiad o'r hinsawdd lem o ran y farchnad gwrw."

Ychwanegodd y gallai'r cynnydd mewn diwylliant siopau coffi yn y Deyrnas Unedig gael ei weld fel dylanwad cynyddol America ar y DU.

"Mae'n amlwg bod coffi wedi bod yn rhan o ddiwylliant yr Unol Daleithiau ers nifer o flynyddoedd ond erbyn hyn mae'r dylanwad hwn yn lledu i'r DU a marchnadoedd eraill.

"Mae nifer o bobl yn gweld coffi fel rhywbeth moethus sy'n fforddiadwy er eu bod yn wynebu pwysau ariannol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol