Carcharu dyn roddodd garafan ar dân

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron (cyffredinol)
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y llys fod ffrae wedi bod oherwydd hawl tramwy a dyfarniad llys sirol.

Mae dyn 21 oed roddodd garafan ar dân wedi ffrae rhwng aelod ei deulu â'i gymydog wedi ei garcharu am ddwy flynedd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Edwyn Foulkes o Gaernarfon yn feddw pan roddodd y garafan oedd yn perthyn i fenyw yn ei saithdegau ar dân yng Nghlynnog Fawr ym mis Mawrth.

£8,000

Roedd ffrae wedi bod oherwydd hawl tramwy a dyfarniad llys sirol.

Cafodd y garafan ei dinistrio'n llwyr ac roedd £8,000 o ddifrod.

Roedd Foulkes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o losgi bwriadol a bod yn fyrbwyll a fyddai bywyd yn cael ei beryglu.

Dywedodd yr erlynydd, Elen Owen, fod angen oeri silindrau nwy er mwyn osgoi ffrwydrad.

A dywedodd John Wyn Williams ar ran yr amddiffyn fod y diffynnydd yn edifeiriol, fod marwolaeth ei dad wedi effeithio arno a bod ei fam yn sâl ar y pryd.

'Dial'

"Y rheswm am y llosgi oedd dial," meddai'r Barnwr Niclas Parry.

"Roeddech yn ddyfalbarhaus, yn benderfynol ac roedd eich ymddygiad yn afresymol.

"Roedd aelod o'ch teulu yn ddig oherwydd ffrae nad oeddech chi'n rhan ohoni ... ond penderfynoch chi ymosod ar eiddo dynes oedrannus, fregus oedd yn byw ar ei phen ei hun.

"Mi wnaethoch lenwi can â phetrol a mynd â bar er mwyn cael mynediad drwy rym, hynny yw roedd cynllun o flaen llaw."

Mae gorchymyn atal yn golygu na ddylai gysylltu â Sophia Parry-Jones na mynd o fewn 500 llath i'w chartre.