Llys: Mam wedi diodde trais
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod mam wedi diodde trais yn y cartre ers dechrau ei phriodas a bod teulu ei gŵr wedi ei thrin fel "morwyn fach".
Yn Llys y Goron Caerdydd mae Sara Ege, mam Yaseen, o Dreganna, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre yng Ngorffennaf 2010.
Mae ei dad, Yousef Ali Ege, wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.
Taro â phren
Dywedodd y fam wrth y llys fod y tad wedi bwrw'r mab, ei gicio a'i daro â phren ers blynyddoedd.
Roedd hi'n rhy ofnus i alw am help, meddai.
Dywedodd y fam fod ei gŵr wedi cloi Yaseen yn y stafell molchi am hyd at 10 munud y diwrnod cyn ei farwolaeth.
Roedd hi wedi clywed ei mab yn gweiddi mewn poen a phan agorodd y drws roedd ei wyneb yn goch.
Ar ddiwrnod y farwolaeth roedd hi wedi dadlau â'i gŵr, gan ddweud wrtho na ddylai fod wedi ymosod ar eu mab yn y fath fodd.
Yn dreisgar
Dywedodd i'r ddadl droi'n dreisgar ac i Yaseen ddod i'r stafell cyn i'w dad ddechrau ei gicio - y tro hwn yn ei stumog.
Cwympodd y mab i'r llawr, meddai, a diferai gwaed o'i geg.
Ychydig o funudau wedyn, trodd yn las cyn iddo farw.
Yn wreiddiol, y gred oedd bod y bachgen wedi marw oherwydd damwain drychinebus oherwydd y tân.
Ond dangosodd archwiliad post mortem fod y bachgen wedi ei gam-drin yn gorfforol.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 2 Mai 2012
- 1 Mai 2012