Katherine Jenkins yn ail ar Dancing With The Stars
- Published
Fe ddaeth y gantores o Gastell-nedd Katherine Jenkins yn ail yn y gyfres deledu Dancing with the Stars yn Amercia.
Dyma fersiwn America o Strictly Come Dancing y BBC.
Yr enillydd oedd y pêl-droediwr Americanaidd Donald Driver.
Roedd Jenkins yn dawnsio gyda Mark Ballas, ac ar ddiwedd y gyfres dywedodd "diolch anferth" iddo mewn neges ar wefan Twitter.
Ymhlith y rhai eraill oedd wedi cymryd rhan eleni oedd cyn-bencamwraig Wimbledon Martina Navratilova a'r gantores Gladys Knight.
Nid dyma oedd y tro cyntaf i Jenkins, 31 oed, ymddangos ar y gyfres.
Un o'r beirniaid oedd prif feirniad Strictly, Len Goodman.
Ymhlith y Prydeinwyr i gystadlu yn y gorffennol y mae Heather Mills a Kelly Osbourne.
Ymhlith enillwyr blaenorol y mae actores Dirty Dancing Jennifer Grey a fu'n feirniad gwadd ar Strictly Come Dancing y llynedd a chyn-gantores Pussycat Dolls Nicole Scherzinger.
Fe wnaeth Jenkins gyhoeddi ei bod hi a'r cyflwynydd Gethin Jones wedi gwahanu ym mis Rhagfyr.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod pan oedd Jones yn cystadlu ar Strictly Come Dancing yn 2007.
Daeth Jones yn drydydd gyda'i bartner Camilla Dallerup.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Rhagfyr 2011
- Published
- 7 Chwefror 2011
- Published
- 19 Hydref 2008
- Published
- 25 Mai 2005