Treisio: Dedfryd benagored i ddyn o Benygroes, Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Roedd Thomas wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Mae dyn 27 oed wedi cael dedfryd benagored o garchar am fod yn euog o bum cyhuddiad o dreisio menyw a dwy ferch.
Roedd un ohonyn nhw'n 14 oed, a'r lleill yn 21 ac 17 oed.
Bydd Alexander Thomas o Benygroes, Gwynedd, yn gorfod treulio o leiaf chwe blynedd dan glo cyn cael ei ystyried ar gyfer parôl.
Dywedodd y Barnwr Dafydd Hughes wrtho yn Llys y Goron Caernarfon ei fod wedi dangos dirmyg a thrahauster a bron agwedd wamal at fenywod.
Roedd ei fargyfreithiwr wedi dweud ei fod yn berson talentog, huawdl a pheniog.
Roedd Thomas wedi gwadu'r cyhuddiadau ond fe'i cafwyd yn euog ar ddiwedd achos barodd am saith niwrnod.