Cwmni plastig yn creu 30 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni newydd sy'n adfer plastig yn creu 30 o swyddi ac o bosib yn cyflogi 80 ymhen tair blynedd.
Mae Viridis Plastics wedi dweud eu bod am sefydlu un o'r busnesau adfer plastig mwyaf yn y pedair gwlad ar ôl iddo brynu asedau cwmni arall o'r enw Plastics Sorting yn y Coed Duon.
Dywedodd y cwmni y byddai'r cyfleuster yn agor ym mis Mehefin a'u bod wedi dechrau recriwtio staff.
Bydd Viridis yn allforio cynnyrch i Ffrainc, yr Almaen a'r Iwerddon ar y cychwyn.
100,000 troedfedd sgwâr
Roedd Plastics Sorting wedi sefydlu canolfan 100,000 o droedfeddi sgwâr er mwyn didoli a phuro deunyddiau plastig yn y Coed Duon yn 2007.
Roedd deunydd gwastraff fel poteli plastig yn cael eu hailgylchu ond aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr a chollwyd 30 o swyddi.
Mae Viridis Plastics UK, is-gwmni Grŵp Viridis Plastics o'r Iwerddon, yn cael cyllid ad-daladwy oddi wrth Lywodraeth Cymru fel bod modd caffael asedau a chyfarpar Plastic Sorting a'u cadw yng Nghymru.
'Potensial'
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart: "Drwy gefnogi'r buddsoddiad, rydym yn creu cyfle i sefydlu busnes cynaliadwy ac mae potensial hefyd i'r cwmni ehangu gan ddod â manteision economaidd a swyddi i Gymru.
"Yn y sector ynni ac amgylcheddol mae'r cwmni hwn yn gweithredu, un o'r sectorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu am fod yma botensial ar gyfer twf.
"Mae'n dda iawn gen i glywed am gynlluniau hirdymor y busnes hwn."
'Hirdymor'
Dywedodd Gregg Twomey, Rheolwr Gyfarwyddwr Viridis Plastics Group: "Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddiad mawr a hirdymor yn y prosiect hwn.
"Y safle yn y Coed Duon yw'r unig gyfleuster ailgylchu o'r fath yng Nghymru a'r un mwyaf yng ngorllewin y DU."
Ychwanegodd eu bod eisoes wedi derbyn archebion sylweddol am 20,000 o dunelli o PET (Polyethylene terephthalate) ac maen nhw'n disgwyl cyrraedd eu lefel gynhyrchu lawn o fewn 18 mis.
Straeon perthnasol
- 19 Mai 2012
- 3 Chwefror 2012