Cynhadledd eglwysi 'gwyrdd' yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae syniadau ar gyfer gwneud eglwysi yn 'wyrdd' yn cael eu trafod mewn cynhadledd yn Wrecsam ddydd Mercher.
Gobaith yr Eglwys yng Nghymru wrth drefnu'r gynhadledd yw y bydd plwyfolion yn dysgu sut i wneud eu heglwysi yn fwy effeithiol o ran ynni a chynaliadwyedd.
Mae arbenigwyr ynni yn siarad am dechnolegau megis paneli solar, tyrbinau gwynt a boeleri sglodion pren, gan weld sut mae'r rhain yn gweithio drwy edrych ar enghreifftiau o eglwysi a chapeli yng Nghymru.
Dywedodd Wyn Evans, Esgob Tyddewi: "Ein nod yw hyrwyddo arferion gwaith cynaliadwy mewn eglwysi ym mhob rhan o Gymru.
"Gobeithiwn y caiff pobl sy'n edrych ar ôl mannau hanesyddol o addoli eu hysbrydoli gan y siaradwyr a'r astudiaethau."
Mae'r enghreifftiau yn cynnwys:
· Eglwys Sant Joseff, Cwmafan - paneli solar ac arferion cynaliadwy (ailgylchu, llwybrau natur/celf, prosiectau cymunedol);
· Capel Libanus, Aberhonddu - pwmp gwres sy'n defnyddio aer, a chladin allanol;
· Eglwys Sant Pedr, Rhuthun - paneli ffotofoltaig ar y to.
Cynhelir y gynhadledd yn Eglwys St Giles, Wrecsam.
Yn y cyfamser, gall eglwysi gynnal "archwiliad gwyrdd" i ganfod pa mor gyfeillgar i'r amgylchedd ydynt.
Gall ymwelwyr i wefan 'Yr Eglwys yn Gweithredu ar Gynnal yr Amgylchedd' ddefnyddio rhestr wirio i weld pa mor dda y maent yn gwneud - o ailgylchu sbwriel i weini coffi Masnach Deg a gwneud y fynwent yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.
Straeon perthnasol
- 17 Medi 2011
- 14 Ebrill 2008