Pâr olaf Swydd Hampshire yn rhwystro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Cafodd Morgannwg eu rhwystro gan bâr olaf Swydd Hampshire ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Mercher.
Cipiodd bowlwyr yr ymwelwyr dair wiced cyn cinio gan gynnwys cyn-fatiwr prawf Awstralia Simon Katich.
John Glover a Wil Owen oedd bowlwyr gorau Morgannwg ac fe gipiodd Glover ddwy wiced cynnar gan gynnwys agorwr Hampshire Liam Dawson am chwe rhediad a chyn-fatiwr prawf Lloegr Michael Carberry heb sgorio.
Roedd Hampshire mewn sefyllfa fregus 22 -2 ond ychwanegodd agorwr arall Hampshire James Adams a Katich 65 rhediad am y drydedd wiced cyn i Wil Owen faglu Katich goes o flaen wiced am 36 rhediad.
Clec
Yn fuan wedi cincio cipiodd Owen wiced Adams am 42 ac er i Michael Bates daro 41 cyflym llwyddodd Morgannwg gipio naw wiced am 231 o rediadau.
Ond ychwanegodd Sean Irvine (109 heb fod allan) a David Balcombe (39) 85 rhediad am y wiced olaf i roi tolc i obeithion Morgannwg.
Llwyddodd Glover gymryd pedair wiced am 76 rhediad a chymrodd Owen bedair wiced am 87 rhediad.
Llwyddodd agorwyr Morgannwg sgorio 13 rhediad heb golli wiced cyn diwedd y chwarae.
Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2
Swydd Hampshire v. Morgannwg - Diwrnod cyntaf
Swydd Hampshire: 316
Morgannwg: 13-0