Cyngor yn enwi aelodau cabinet
- Cyhoeddwyd

Dim ond un cynghorydd sydd wedi cadw ei sedd yng nghabinet newydd Cyngor Powys.
Cyhoeddodd arweinydd newydd y cyngor, David Jones, enwau aelodau ei gabinet wedi iddo gymryd lle y cyn-arweinydd E Michael Jones.
Bydd Rosemary Harris, oedd yn rhan o weinyddiaeth y glymblaid rhwng Cynghrair Annibynnol Powys a'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiadau'r cyngor sir, yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol oedolion.
Bu Ms Harris yn aelod o'r gynghrair ond erbyn hyn mae'n aelod Annibynnol anymochrol.
Diwygio ysgolion
Mae Gareth Ratcliffe, fydd yn gyfrifol am adnoddau dynol, wedi gadael y grŵp Ceidwadol ac yn Geidwadwr anymochrol.
Bydd cynghorydd Machynlleth, Michael Williams, yn gyfrifol am bortffolio addysg ac yn wynebu sawl her, gan gynnwys cynlluniau i ddiwygio ysgolion cynradd ac uwchradd.
Bydd Graham Brown yn gyfrifol am gynllunio a Barry Thomas yn gyfrifol am briffyrdd.
Mae Melanie Davies yn ymuno â'r cabinet fel yr aelod sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol plant ac fe fydd cyn-gadeirydd y cyngor, Garry Banks, yn gyfrifol am eiddo ac asedau'r cyngor.
Mae Gary Price wedi'i benodi i oruchwylio'r adran Llywodraethu Corfforol.
Nid yw'r arweinydd newydd wedi ffurfio clymblaid gyda phlaid arall.
Gwrthododd gynnal trafodaethau gyda'r gynghrair wedi'r etholiadau lleol ar Fai 3 wrth ddweud bod "gwahaniaethau sylfaenol" rhyngddyn nhw.
Cyhoeddodd arweinydd newydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn (Plaid Cymru) ei chabinet yr wythnos diwethaf.
Tri aelod
Ymysg aelodau newydd y cabinet fydd Catherine Hughes (Plaid Cymru) yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol a thai ac Alun Williams (Plaid Cymru) fydd yn cymryd cyfrifoldeb am drafnidiaeth, gwastraff a rheoli carbon.
Bydd tri aelod o'r grŵp Annibynnol yn rhan o'r cabinet.
Bydd Gareth Lloyd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd, datblygu cymunedol, hamdden a diwylliant.
Bydd Peter Davies yn cymryd cyfrifoldeb am adnoddau corfforaethol ac fe fydd Ray Quant wrth y llyw ym maes trawsnewid a rheoli perfformiad.
Bydd y ddau aelod arall o'r cabinet yn cynrychioli'r grŵp Llais Annibynnol.
Bydd Hag Harris, sydd yn gynghorydd Llafur ar gyfer Llanbedr-Pont Steffan, yn gyfrifol am addysg a dysgu gydol oes ac fe fydd Dafydd Edwards yn cymryd yr awenau o ran yr amgylchedd, rheoleiddio a chynllunio.
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2012
- 11 Mai 2012