Jake yn gwella ac yn ennill gwobr
- Cyhoeddwyd

Mae bachgen ysgol gafodd ei barlysu gan salwch wedi ennill gwobr rygbi ar ôl gwella'n rhyfeddol.
Cafodd Jake Jones, 14, ei enwi'n chwaraewr y flwyddyn gan Glwb Rygbi Dinbych a hynny dair blynedd wedi i salwch ei orfodi i ddefnyddio cadair olwyn am bedair mis.
Cafodd ffisiotherapi er mwyn dysgu cerdded eto.
Yn 2009 fe gafodd ei ymennydd a llinyn y cefn eu heffeithio gan glefyd.
Ymunodd â'i glwb rygbi lleol blwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag ymuno â charfan gogledd ddwyrain Cymru.
Fe wnaeth arbenigwyr ganfod ei fod yn dioddef o fath o enseffalomyelitis sydd yn effeithio'r cefn.
Dywedodd ei rieni, Medwyn a Delyth Jones, bod Jake wedi bod yn teimlo'n sâl am wythnosau cyn dihuno un bore yn Ionawr 2009 yn methu symud.
'Mor falch'
"Doedd ganddo ddim teimlad yn ei gorff isaf o gwbl - roeddent yn ei gyffwrdd â phlu i weld os allai deimlo unrhyw beth ond doedd yna ddim byd," dywedodd Mrs Jones mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Daily Post.
"Roedden nhw'n gofyn i ni os oedd wedi cael ei gnoi, os oedden ni'n byw ger coedwig, os oedden ni wedi bod i wlad tramor.
"Doedd hi ddim yn glir i unrhyw un beth oedd yn bod â Jake ac roedden ni'n poeni'n arw. Roedd yn ofnadwy."
Wedi 10 diwrnod yn ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl dechreuodd Jake fedru teimlo ychydig yn ei goesau.
O fewn tair wythnos cafodd fynd adref gan ddychwelyd i'r ysbyty am ffisiotherapi.
Bu yn rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn am bedwar mis cyn ail-ddechrau yn yr ysgol rhan amser yn ddiweddarach yn yr haf.
Yna, blwyddyn ddiwethaf, dywedodd Jake, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, Sir Ddinbych, ei fod am ddechrau chwarae rygbi.
"I ddechrau roedden ni'n poeni ac yn meddwl byddai'n rhy beryglus," meddai ei fam.
"Ond roedd yn benderfynol ei bod am wneud.
"Roedden ni wrth ein boddau pan glywon ni ei bod wedi ennill chwaraewr y flwyddyn.
"Mae mor ddewr, ac rydym mor falch ohono."