Llys: Mam yn llewygu yn y doc
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi llewygu yn y doc pan honnwyd ei bod wedi llofruddio ei mab a rhoi ei gorff ar dân.
Yn Llys y Goron Caerdydd mae Sara Ege, 31 oed o Dreganna, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Eisoes mae wedi dweud mai ei gŵr, Yousuf, 38 oed, laddodd eu mab.
Mae'r tad wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.
Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre yng Ngorffennaf 2010.
Ddydd Mercher cafodd y llys ei glirio am hanner awr wrth i Mrs Ege gael ei hadfywio.
'Pwnio'
Wedyn dywedodd: "Y gŵr laddodd fy mab. Wnes i ddim byd o'i le. Wnes i erioed roi lo's i'r mab.
"Roedd Yousef yn fy mhwnio i a daeth Yaseen i mewn a dweud: 'Paid pwnio Mam, paid ...'."
Clywodd y llys fod y mab wedi marw oherwydd ei anafiadau yr un diwrnod.
Honnodd Mrs Ege fod y tad wedi gadael y tŷ a bod ei frawd, Nasser, wedi cyrraedd.
Gwaeddodd hi a cheisio ei atal pan roddodd ei brawd-yng-nghyfraith gorff y plentyn ar dân.
"Wedyn gadawodd Nasser a llusges i Yaseen o'r tân cyn rhedeg lawr sta'r a ffonio 999," meddai.
Bygwth
Honnodd ei bod wedi gorfod cyffesu ei bod wedi llofruddio ei mab oherwydd bod y brawd-yng-nghyfraith wedi ei phwnio a'i bygwth.
Yn wreiddiol, y gred oedd bod y bachgen wedi marw oherwydd damwain drychinebus oherwydd y tân.
Ond dangosodd archwiliad post mortem fod y bachgen wedi ei gam-drin yn gorfforol.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 2 Mai 2012
- 1 Mai 2012