Cwest Llanrug : Rheithfarn o ladd anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Roedd dwy ffrind ifanc gafodd eu lladd mewn damwain ffordd ar Ddydd Calan wedi cymryd cocên, clywodd cwest ddydd Mercher.
Canfu profion fod gan y gyrrwr, Sasha Jarvis, gweithiwr gofal 19 oed o Lanberis 0.35 mg/litr o'r cyffur yn ei chorff o'i gymharu â'r lefel gwenwynig o 0.25 mg/litr.
Yn ogystal roedd ganddi lefel alcohol gwaed o 257 mg/100ml, mwy na thair gwaith y lefel cyfreithiol o ran gallu gyrru.
Dywedodd patholegydd y byddai wedi bod yn feddw iawn ac y byddai wedi teimlo'n hyderus wedi iddi gymryd y cocên.
Lladd anghyfreithlon
Bu farw Ms Jarvis, nad oedd yn gwisgo gwregys diogelwch, o ganlyniad iddi dorri ei hasgwrn cefn.
Cofnododd y crwner, Dewi Pritchard-Jones reithfarn o farwolaeth trwy ddamwain.
Ond cofnododd reithfarn o ladd anghyfreithlon o ran Siân Lloyd Davies, gweinyddwraig hunangyflogedig 21 oed o Bentir ger Bangor oedd yn teithio yn y car gyda Ms Jarvis.
Roedd Ms Lloyd yn gwisgo gwregys diogelwch pan darodd y Vauxhall Corsa yn erbyn wal ger tafarn Glyn Twrog yn Llanrug am 6am ddydd Sul Ionawr 1 2012.
Esboniodd y crwner ei reithfarn oherwydd pe bai Ms Jarvis wedi goroesi'r ddamwain y byddai'n debygol iddi gael ei herlyn am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus oherwydd y lefelau o alcohol a chocên yn ei chorff.
Dywedodd ymchwilydd damweiniau'r heddlu y gallai'r car wedi bod yn teithio ar gyflymder o 50 m.y.a. drwy barth 30 m.y.a..
Ychwanegodd fod y car wedi taro wal cyn troi a tharo dwy wal arall.
Straeon perthnasol
- 9 Ionawr 2012
- 7 Ionawr 2012
- 2 Ionawr 2012