BBC: Dim streic yn dilyn trafodaethau

  • Cyhoeddwyd
BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Roedd aelodau Bectu a'r NUJ wedi pleidleisio i streicio oherwydd i gadeirydd cangen leol BECTU gael ei diswyddo

Mae undebau sy'n cynrychioli newyddiadurwyr a staff technegol yn BBC Cymru wedi rhoi'r gorau i'w cynlluniau i gynnal streic 24 awr ar y diwrnod mae'r Ffagl Olympaidd yn cyrraedd Cymru.

Roedd aelodau BECTU a'r NUJ wedi pleidleisio i streicio oherwydd i gadeirydd cangen leol BECTU gael ei diswyddo.

Ond cyhoeddodd y BBC eu bod wedi dod i gytundeb â'r undebau, sydd wedi penderfynu peidio streicio ddydd Gwener.

Roedd staff y gorfforaeth wedi bwriadu cynnal streic 24 awr ddydd Gwener.

Bu'r bwriad i weithredu'n ddiwydiannol yn brotest yn erbyn penderfyniad y BBC i ddiswyddo cadeirydd cangen Bectu yn BBC Caerdydd, Heidi Williams

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies wrth staff fod y gorfforaeth a'r undebau wedi tanlinellu eu hymroddiad i weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol.

Dywedodd Luke Crawley, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Bectu: "Rydym wedi cael y canlyniad hwn oherwydd parodrwydd aelodau'r undebau i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gan ddangos eu cryfder i gefnogi cyd-weithwyr gwerthfawr."

Ychwanegodd Mr Crawley "nad mater bach" oedd y penderfyniad i streicio.

Dywedodd yr undebau y byddai'r cytundeb yn eu galluogi i "gamu ymlaen a dechrau'r dasg o adfer y berthynas" â BBC Cymru.

Roedd trafodaethau rhwng y gorfforaeth a'r undebau wedi parhau wedi i drafodaethau ddod i ben yr wythnos diwethaf ar ôl cyfarfod 12 awr gyda'r gwasanaeth cymodi Acas.