Parcio: Galw am ymddiheuriad
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwad i brif weithredwr cyngor sir i ymddiheuro ar ôl iddo dderbyn dirwy o £30 am barcio ar linell felen dwbl er bod yna faes parcio swyddogol o fewn tafliad carreg.
Mewn datganiad dywedodd Mark James, prif weithredwr Sir Gâr: "Fe wnes i barcio am gyfnod byr a dwi'n derbyn na ddylwn wedi gwneud hynny. Mae wedi costio £30."
Roedd Mr James wedi parcio yn anghyfreithlon yn nhre Caerfyrddin tua 40 llath o faes parcio'r cyngor.
Dywedodd Arwyn Davies, arweinydd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin y dylai'r prif weithredwr ymddiheuro.
Codi prisiau
Mae'n costio £1.40 i barcio yn y maes parcio am ddwy awr.
Awgryma gwefan y cyngor y dylid cynyddu ffioedd parcio'r sir yn raddol dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae yna bobl leol wedi cwyno am yr awgrym i godi prisiau yn y blynyddoedd nesaf.
Mae'r awdurdod wastad wedi dadlau bod hynny'n angenrheidiol yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Dywedodd Mr Davies, arweinydd Cymdeithas Ddinesig y dref: "Fel prif weithredwr y sir efallai dylai wedi bod mwy gofalus.
"Do mae e wedi cyfaddef - dyle fe hefyd ymddiheuro."
Straeon perthnasol
- 29 Mawrth 2012
- 26 Mawrth 2012
- 15 Tachwedd 2011