MI6: Wedi marw ar ei ben ei hun?

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Gareth Williams yn parhau

Mae patholegydd wedi dweud y dylid ailystyried y posibilrwydd fod y swyddog MI6 Gareth Williams wedi marw ar ei ben ei hun.

Dywedodd Dr Richard Shepherd wrth y BBC fod yna "dystiolaeth gredadwy" fod modd cau bagiau o'r tu mewn fel yr un lle cafwyd hyd i gorff Mr Williams.

Roedd tystion yn y cwest wedi ceisio cannoedd o weithiau i wneud hynny ond yn aflwyddiannus.

Ond mae Dr Shepherd wedi dweud bod tystiolaeth newydd wedi dod i'r fei.

Cafwyd hyd i gorff Mr Williams, oedd yn wreiddiol o Ynys Môn, mewn bag chwaraeon oedd wedi ei gloi yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain, ar Awst 23, 2010.

Dr Shepherd gynhaliodd un o'r archwiliadau post mortem.

Diana

Mae hefyd wedi gweithio ar achosion fel marwolaeth y Dywysoges Diana a'r gwyddonydd David Kelly.

Erbyn hyn, mae'n credu y dylid ystyried y posibilrwydd fod Mr Williams wedi marw ar ei ben ei hun.

Gwnaeth ei sylwadau ar raglen Radio 4 The Report.

"Nawr mae 'na dystiolaeth gredadwy bod modd cau bag o'r tu mewn," meddai.

"Er bod hyn ddim yn dweud nad llofruddiaeth ddigwyddodd, mae'n amlwg y bydd rhaid i unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu ystyried y posibilrwydd o weithred rywiol gan unigolyn."

Roedd yr arbenigwr ar weithio mewn llefydd cyfyng, Peter Faulding, wedi dweud wrth y cwest nad oedd yn gallu diystyru fod modd cloi'r bag o'r tu mewn ond "byddai hyd yn oed Houdini wedi cael trafferth".

Pum ymdrech

Roedd arbenigwr arall, William Mackay, wedi dweud ei fod e a chynorthwyydd wedi methu cau bag tebyg o'r tu mewn er iddynt geisio cloi eu hunain mewn bag tebyg fwy na chant o weithiau.

Dywedodd y crwner, Dr Wilcox, ei fod yn debygol bod Mr Williams wedi ei ladd yn anghyfreithlon.

Ond mae'r newyddiadurwr, Claire Hayhurst, wedi honni ei bod wedi llwyddo i gloi bag tebyg wedi dim ond pum ymdrech gyda chyfarwyddyd cyn filwr, Jim Featherstonhaugh.

"Y rhan fwya anodd oedd llwyddo i ddod â'r clo ynghyd," meddai Ms Hayhurst.

"Treuliais i ddwy awr a hanner yn ffilmio fy hun yn mynd i mewn ac allan o'r bag.

"Dwi ddim yn rhy ffit ond mae 'nghorff i'n debyg i Gareth o ran maint.

"Fe fyddai wedi bod yn well petai rhywun â'r un corff yn union wedi gwneud hyn ond rwy'n meddwl fy mod wedi dangos ei fod yn bosib cloi eich hun i mewn."

Dywedodd ei bod wedi gwneud hyn o dan oruchwyliaeth arbenigwyr diogelwch ac y byddai unrhyw ymdrech i ail greu'r arbrawf yn beryglus iawn.

DNA

Yn y cyfamser, dywedodd Mr Faulding wrth raglen The Report ei fod yn glynu wrth ei dystiolaeth yn y cwest.

"Doedd dim un o nghasgliadau i'n anghywir," meddai.

"Dyw'r ffaith bod merch ifanc wedi llwyddo i gau bag ddim yn bwrw amheuaeth ar yr ymchwiliad hwn."

"Roedden ni'n hollol ymwybodol o dechnegau eraill o gloi'r bag ond ni fyddai hi neu unrhyw un arall wedi llwyddo i wneud hyn heb adael eu DNA ar y bath - a dyna'r allwedd i'r ymchwiliad hwn."

Yn ystod y cwest dywedodd Dr Wilcox ei bod o'r farn bod rhywun wedi symud y bag oedd yn cynnwys Gareth Williams i mewn i ystafell ymolchi ei fflat yn Pimlico.

Mae teulu Mr Williams wedi gofyn i gomisiynydd Heddlu LLundain ailystyried ac adolygu sut y bydd yr ymchwiliad yn datblygu.

The Report ar BBC Radio 4, ddydd Iau, Mai 24, am 8pm.