Darganfod corff dyn yn y môr oddi ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi ei ddarganfod yn y môr ger Ynys Môn.
Fe gafodd ei ddarganfod chwarter milltir oddi ar arfordir Malltraeth tua 4pm ddydd Mercher gan Bad Achub Bae Trearddur.
Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod hyd yma.
Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol