Adeilad Coleg Meirion-Dwyfor gwerth £7.6m yn agor

Llun arlunydd o'r adeilad newydd yng Nglynllifon Image copyright Other
Image caption Mae Pentref Addysg Glynllifon Coleg Meirion-Dwyfor yn rhan o gynllun £10 miliwn

Mae adeilad coleg newydd gwerth £7.6 miliwn wedi cael ei agor yn swyddogol yng Ngwynedd ddydd Iau.

Mae Pentref Addysg Glynllifon Coleg Meirion-Dwyfor yn rhan o gynllun £10 miliwn.

Mae'r coleg yn cynnig cyrsiau amaethyddiaeth a rheoli tir ar gyfer myfyrwyr rhwng 14 oed a 19 oed ar ystâd Glynllifon.

Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Dywedodd Mr Jones: "Rydw i hynod o falch ein bod ni wedi gallu cefnogi adeiladu'r Ganolfan Ddysgu hon.

"Mae'r cyfleusterau, yn wir, o'r radd flaenaf ac mae hyn yn golygu bod y Campws yn un o'r llefydd gorau yn y wlad ar gyfer cyrsiau diwydiannau'r tir.

"Roedd hi'n hyfryd sgwrsio a chyfarfod y myfyrwyr sy'n elwa ar y cyfleusterau diguro hyn."

Mae'r cynllun gwerth £10m yn cynnwys codi adeilad dysgu newydd ac adfer adeiladau llety ar y safle.

Yn 2009 fe gyhoeddodd y coleg eu bod wedi sicrhau cyllid i ddatblygu'r safle gan lywodraeth Cymru.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.