JCB yn creu 40 o swyddi yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
JCB
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y cwmni fod mwy o alw am eu cynnyrch.

Bydd JCB yn creu 40 o swyddi newydd yn eu safle trawsyriant yn Wrecsam.

Bydd y cwmni o Swydd Stafford yn creu 350 o swyddi mewn pum safle yn Lloegr a'u safle yn Wrecsam.

Dywedodd JCB fod mwy o alw am eu cynnyrch.

Ers blwyddyn mae'r cwmni wedi creu 850 o swyddi a'r cyfanswm yw 6,300 o weithwyr.

£2m

Dywedodd llefarydd: "Bydd hyd at 350 o swyddi medrus ar gael yn ein ffatrïoedd yn y Deyrnas Unedig oherwydd cynnydd yn y galw am gynnyrch."

Ym Mawrth cyhoeddodd y cwmni y bydden nhw'n buddsoddi £2m yn eu safle yn Wrecsam.

Er bod y cwmni wedi diswyddo 240 o bobl ar y safle ddwy flynedd yn ôl oherwydd y sefyllfa economaidd, mae bron 500 yn gweithio i'r cwmni yn y dref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol